Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 2 Gorffennaf 2013 |
|
|||
Amser: |
08:30 - 09:15 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Lesley Griffiths William Graham Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth Virginia Hawkins, Pennaeth Pwyllgorau Cynulliad dros dro Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru Sarah Canning, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cafodd y cofnodion eu nodi gan y Pwyllgor i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Bu’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn rhoi y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am newidiadau i fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth. Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r Llywydd yn cynnig bod y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod y Bil a fydd yn cael ei alw’n Bil Sector Amaethyddol (Cymru) yn cael ei drin fel Bil brys y Llywodraeth a’r cynnig i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil hwn yn cael eu grwpio ar gyfer y ddadl ond fod y pleidleisiau arnynt yn cael eu cynnal ar wahân.
Nododd y Rheolwyr Busnes na fyddai’r terfyn amser llym arferol o 5 munud yn berthnasol yn y ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru). Fodd bynnag, ni ddisgwylir i unrhyw Aelod siarad am ragor na 10 munud ar unrhyw grŵp o welliannau. Hefyd, nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau mewn perthynas â’r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) yn cael eu cynnal yn ystod trafodion Cyfnod 3 a 4.
Ddydd Mawrth, bydd y Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cafodd busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf ei nodi gan y Pwyllgor Busnes.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefniadau o ran busnes, ac, oherwydd y newidiadau Gweinidogol, nododd na fyddai Dadl Fer Ken Skates, a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013, yn mynd yn ei blaen.
3(iv) Dadl gan Aelod Unigol: Dewis Cynnig i'w Drafod
Cafodd y cynnig a ganlyn ei ddewis gan y Pwyllgor Busnes ar gyfer dadl yn y Cynulliad:
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013
· NNDM5266
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi'r ymgyrch Dim Mwy o Dudalen Tri ac yn galw ar bapur newydd The Sun i roi'r gorau i'r cynnwys hwn.
Yn y cyfarfod ar 18 Mehefin 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r ddadl nesaf gan Aelod unigol yn cael ei chynnal ddydd Mercher 16 Hydref 2013.
3(v) Trefnu busnes y Cynulliad: Bil Brys y Llywodraeth
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur yn amlinellu opsiynau ar gyfer trefnu busnes pe bai’r Cynulliad yn penderfynu ymdrin â’r Bil Sector Amaethyddol (Cymru) fel Bil Brys a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig er mwyn i'r Cynulliad ystyried y Bil hwn.
Bu’r Rheolwyr Busnes yn ystyried yr amserlen fusnes arfaethedig, gan gytuno y byddai Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 16 Gorffennaf 2013 yn dechrau’n syth ar ôl i Bwyllgor y Cynulliad Cyfan orffen ei fusnes, yn hytrach na phennu amser dechrau penodol.
Nododd y Rheolwyr Busnes derfynau amser arfaethedig y Llywydd ar gyfer Cyfnod 2 a 3 pe bai’r amserlen arfaethedig yn cael ei chytuno.
3(vi) Amserlen y Cynulliad
Yn dilyn trafodaethau â’r grwpiau, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried eto y dyddiadau arfaethedig ar gyfer toriadau rhwng Medi 2013 a Gorffennaf 2014.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymestyn tymor yr hydref 2014 1 wythos (dyddiadau dros dro ar gyfer y toriad: Dydd Llun 21 Gorffennaf – Dydd Sul 14 Medi 2014).
4 Deddfwriaeth
4(i) Rheoli'r Rhaglen Ddeddfwriaethol
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
5 Rheolau Sefydlog
5(i) Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 22 – Safonau Ymddygiad
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur ar argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei Adroddiad ar Sancsiynau a gyhoeddwyd ar 15 Mai 2013 y dylid adolygu Rheolau Sefydlog.
Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried cynigion i ddiwygio Rheol Sefydlog 22 i weithredu’r argymhelliad hwn. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â’r grwpiau a’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ynghylch y cynigion, ac i ddychwelyd at y mater yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 16 Gorffennaf 2013.
5(ii) Diwygio Rheolau Sefydlog: Cydsyniad Deddfwriaethol i Offerynau Statudol gan Weinidogion y DU a Biliau Preifat
Yn dilyn trafodaethau â’r grwpiau, bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried eto papur yn cyflwyno cynigion i gyflwyno Rheol Sefydlog 30A newydd i sefydlu gweithdrefn ffurfiol sy’n diwygio deddfwriaeth sylfaenol o fewn cymhwysedd y Cynulliad. Hefyd, cafodd y Rheolwyr Busnes eu gwahodd i ystyried cynigon a amlinellwyd i ddod â Biliau Preifat y DU o fewn cwmpas Rheol Sefydlog 29.
Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth am y broses yn Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon, a byddant yn dychwelyd at y mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Unrhyw Fater Arall
Yn dilyn achlysur diweddar pan gollodd Aelod ddechrau dadl yr oedd i fod i gynnig gwelliannau ei grŵp ynddi, cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa bod y Llywydd a’r Dirprwy Lywydd yn bwriadu bod yn fwy llym o ran peidio â galw Aelodau sy’n cyrraedd yn hwyr i siarad mewn dadl.